Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynglŷn â’r Bil Addysg
Papur briffio cyfreithiol
Cyd-destun
1. Paratowyd y papur briffio cyfreithiol hwn oherwydd arwyddocâd arbennig y cynnig hwn a’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (CCD) arall (ynglŷn â’r Bil Lleoliaeth) sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd. Maent yn arwyddocaol am ddau reswm. Yn gyntaf, y rhain yw’r cynigion cyntaf o’r fath i ddod gerbron y Cynulliad ers iddo ennill ei gymhwysedd llawer ehangach wedi’r refferendwm a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Yn ail, y rhain yw’r cynigion cydsyniad deddfwriaethol llawn cyntaf y bydd y Rheol Sefydlog 29 newydd yn berthnasol iddynt.
2. Daeth Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn rhan o fusnes y Cynulliad yn ystod y Trydydd Cynulliad ar ôl i’r Cynulliad ennill cymhwysedd deddfwriaethol cyfyngedig o ran y materion sy’n ymddangos yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Roeddent yn dilyn y cynsail a sefydlwyd yn yr Alban yn 1999, lle cyfeiriwyd atynt yn gyffredinol fel cynigion Sewell. Maent yn dynodi bod y Cynulliad yn cytuno y gellid creu deddfwriaeth yn San Steffan ar bynciau penodol er bod y cymhwysedd deddfwriaethol wedi ei ddatganoli. Yn ystod y Trydydd Cynulliad cawsant eu cyflwyno’n amlach, a hynny’n raddol, wrth i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad gynyddu. Ar ôl ehangu’r cymhwysedd hwnnw i gynnwys pob un o’r 20 o bynciau yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006, mae’r ystod o bynciau y byddai angen cydsyniad y Cynulliad arnynt pe bai Llywodraeth y DU yn cynnig deddfu ar un ohonynt yng nghyswllt Cymru yn ehangach o lawer hefyd.
3. Mae’r
Rheol Sefydlog 29 newydd yn seiliedig ar Reol Sefydlog 26 y Trydydd
Cynulliad, ond mae’n cynnwys un datblygiad arwyddocaol yn RhS
29.4 a RhS 29.5, sy’n caniatáu i’r Pwyllgor
Busnes gyfeirio memorandwm cydsyniad deddfwriaethol at un pwyllgor
neu ragor i’w ystyried ac adrodd arno (mae memorandwm
cydsyniad deddfwriaethol yn esbonio cefndir y Bil a sail y cynnig
cydsyniad deddfwriaethol). Gan nad oes unrhyw bwyllgor (ar
wahân i’r Pwyllgor Busnes) wedi ei sefydlu eto, nid
yw’n bosibl i bwyllgor ystyried y ddau femoranda cydsyniad
deddfwriaethol cyntaf hyn. Pan gaiff memoranda eu cyfeirio at
bwyllgorau, mae’n debygol y rhoddir cyngor cyfreithiol tebyg
i’r hyn a geir yn y ddogfen hon i’r pwyllgorau hynny,
ac efallai caiff ei gynnwys yn adroddiadau’r pwyllgorau. Yn
absenoldeb ystyriaeth o’r fath gan bwyllgor, mae’r
cyngor hwn yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol i bob Aelod cyn
y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.
Y Bil Addysg
4. Cafodd y Bil Addysg ei Ddarlleniad Cyntaf ffurfiol yn Nhŷ’r Cyffredin ar 26 Ionawr 2011, ac y mae wedi cwblhau ei daith drwy’r Tŷ ers hynny. Disgwylir i Ddadl yr Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi gael ei chynnal ar 14 Mehefin.
5. Mae’r Bil yn berthnasol i Loegr yn unig yn gyffredinol, ond cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 1 Mawrth yn ymwneud â materion a oedd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac a oedd felly yn berthnasol i Gymru bryd hynny–
“Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau hynny sy’n ymwneud ag Adran 409 o Ddeddf Addysg 1996, Taliadau a Ganiateir, y Panel Apêl Annibynnol, Ysgolion Byrddio a Cholegau a’r Asiantaeth Dysgu ar gyfer Pobl Ifanc a geir yn y Mesur Seneddol ynghylch Addysg, fel y’i cyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin ar 26 Ionawr 2011, i’r graddau y mae’r darpariaethau’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”
6. Mae paragraff 49 o’r Nodiadau Esboniadol i’r Bil yn nodi bod–
Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymwneud a chymal 58 a gafodd ei gynnwys drwy gyfrwng gwelliant gan y Llywodraeth yn ystod cyfnod Adrodd Tŷ’r Cyffredin. Mae’n ymwneud â dileu ffïoedd yn ysgolion Academi preswyl.
Y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
7. Fel yr esbonia’r
Memorandwm sy’n cefnogi’r CCD, mae’r gwelliant,
ac felly’r CCD, yn gyfyng iawn o ran ei gwmpas. Yn wir,
mae paragraff 13 o’r Memorandwm yn awgrymu na fydd y
gwelliant dan sylw
yn cael unrhyw effaith yng Nghymru. Er hynny, mae’n
briodol dod â dau fater sy’n ymwneud â’r
Memorandwm at sylw Aelodau’r Cynulliad.
8. Fe’i gwneir yn glir yn y memorandwm taw’r effaith a gaiff yr adran newydd i’w chynnwys yn Neddf Academïau 2010 fydd ymestyn darpariaethau sydd eisoes yn berthnasol o safbwynt awdurdodau lleol yn talu costau bwyd a llety mewn ysgolion a gynhelir (adran 458 o Ddeddf Addysg 1996) fel y bônt yn berthnasol o safbwynt bwyd a llety mewn Academïau. Rhoddir y darpariaethau hyn ar waith mewn dwy sefyllfa. Y sefyllfa gyntaf yw un lle na fydd modd cynnig addysg sy’n addas at anghenion disgybl mewn cyd-destun heblaw un preswyl. Yr ail sefyllfa yw un lle byddai’r angen i riant dalu costau bwyd a llety yn peri cyni ariannol.
9. Tynnir sylw Aelodau at baragraff 9 y Memorandwm, sy’n cyfeirio at y ddarpariaeth sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno “deddfwriaeth briodol yn unol â’r blaenoriaethau a materion o bwys yng Nghymru”. Gallai hyn roi’r argraff fod yr adran newydd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddeddfu ar y mater. Ni wneir hynny gan yr adran hon. Yr hyn a wna’r adran yw rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud taliadau i Academïau mewn amgylchiadau penodol. Fodd bynnag, mae modd i Weinidogion Cymru gyflwyno cynigion deddfwriaethol cysylltiedig i’w hystyried gan y Cynulliad fel rhan o’i gymhwysedd deddfwriaethol ehangach yng nghyd-destun addysg.
10. Nid oes unrhyw broblemau cyfreithiol gyda’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, sydd yn glir ac yn gywir.
Y Gwasanaeth Cyfreithiol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mehefin 2011